Trosolwg
Mae dwy ran i’r darlunio hwn: y map yn y brif ffenestr, a’r graff yn y bar ochr ar y dde.
Bydd y canllaw hwn i ddefnyddwyr yn esbonio sut i ddefnyddio'r map, a sut i ddehongli'r adrannau gwahanol. Gellir cyrraedd y map ei hun trwy glicio ar y tab Map yn y pennyn.

Data
Ceir hefyd dau fath o ddata: ffactorau y disgwylir iddynt gynorthwyo cymunedau a dangosyddion angen yn y cymunedau hynny.
Rydych yn dewis mesurau cymorth ac angen yn y bar ochr. Gallwch newid y mesurau a ddewisir i ateb cwestiynau gwahanol.
Caif y mesurau yr ydych yn eu dewis eu gosod ar y graff, pob cylch yn cyfateb ag ardal. Mae sawl cylch sydd yno’n dibynnu pa mor fanwl yw’r data ar gyfer y mesur hwnnw (ac i sawl ardal y caiff y map ei rannu).
Mae disgrifiadau o’r mesurau ar gael yn Ystorfa Fframwaith Gwyddoniaeth Agored y prosiect.

Mesur unigol
Os ydych yn dewis un mesur o’r gwymplen, mae’r graff yn dangos sut mae’r mesur hwnnw’n amrywio rhwng ardaloedd gwahanol, o fod yn isel ar y chwith i fod yn uchel ar y dde. Mae’r llinell yn dangos gwerth cyfartalog (cymedr) y mesur hwnnw. Yma rydym wedi dewis nifer y gwirfoddolwyr cofrestredig fesul 100 o bobl.
Mae lliwiau mwy dwys yn adlewyrchu gwerthoedd mwy o’r mesur hwnnw. Mae mwy o gymorth bob amser yn las; mae mwy o angen bob amser yn goch.
Defnyddir yr un lliwiau yn y map.

Dau fesur
Os ydych yn ychwanegu un mesur cymorth ac un mesur angen, byddant yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd, gydag angen ar yr echelin llorweddol a chymorth ar yr echelin fertigol. Yma rydym wedi dewis nifer o wirfoddolwyr cofrestredig fesul 100 o bobl fel y mesur cymorth, a nifer yr achosion hysbys o COVID-19 fesul 100 o bobl fel y mesur angen.
Mae’r ochr dde ar waelod y graff yn adlewyrchu ardaloedd ag angen uchel a chymorth isel, tra bod y brig yn adlewyrchu ardaloedd ag angen isel a chymorth uchel.
Felly ardaloedd gerllaw ochr dde gwaelod y graff sydd â’r coch mwyaf dwys, tra bod y rheiny gerllaw ochr chwith brig y graff sydd â’r glas mwyaf dwys.
Mae’r llinell lwyd, letraws ar y graff yn dangos y duedd o ran y ffordd y mae’r ddau fesur yn gysylltiedig. Mae llinell o’r chwith isel i’r dde uchel yn awgrymu wrth i un gynyddu, bod y llall hefyd yn cynyddu; mae llinell o’r dde uchel i’r chwith isel yn awgrymu wrth i un gynyddu, bod y llall yn gostwng.

Lliwiau’r map
Mae hyn yn cael ei drosi i’r map. Ardaloedd coch dwysach yw’r rheiny â mwy o angen, tra bod ardaloedd glas dwysach yn ardaloedd â mwy o gymorth, fel y diffinnir gan y mesurau yr ydych wedi eu dewis yn y bar ochr.

Cyfuno mesurau
Gallwch hefyd gyfuno mwy nag un mesur cymorth i wneud mesur cymorth cyfunol. Ychwanegwch fesur cymorth arall o’r gwymplen. Gallwch wneud yr un peth ar gyfer mesurau angen.
Caiff y mesurau eu hychwanegu at ei gilydd â phwysau cyfwerth. Caiff y mesurau cyfunol hyn eu graddio fel sgorau Z, gan ddangos sut mae gwerth ardal yn berthnasol i’r gwerth cyfartalog ar draws pob ardal (y cymedr). Mae sgorau Z cadarnhaol uwchlaw’r cymedr, tra bod sgorau negyddol islaw’r cymedr.
Wrth gwrs, ni fydd pob cyfuniad o’r mesurau yn gwneud synnwyr, felly cofiwch hynny wrth ddewis.
Rhoddir y mesurau cyfunol ar y cydraniad uchaf sydd ar gael i’r holl fesurau sydd yn ffurfio’r sgôr cyfunol.

Rhyngweithio gyda’r map
Am gymorth, cliciwch y botwm marc cwestiwn yng nghornel y dewis yr hoffech ddeall mwy amdano.
Gallwch gau’r bar ochr trwy glicio’r × ar yr ochr dde ar frig y sgrin, neu ei agor trwy glicio’r + (sy’n weledol pan fydd y bar ochr ar gau).
Ar y map ei hun, bydd hofran dros ardal yn dangos ble mae’r ardal honno’n ymddangos yn y graff yn y bar ochr.

Tremio a chwyddo
Gallwch dremio i ardaloedd gwahanol o’r map trwy lusgo, neu chwyddo am olwg fanylach trwy sgrolio neu ddefnyddio’r rheolyddion ar yr ochr chwith ar waelod y sgrîn.
Bydd chwyddo ar y map yn datgelu pwyntiau sydd yn cyfateb â grwpiau cymorth cymunedol. Bydd clicio ar un o’r pwyntiau hyn yn dangos gwybodaeth am y grŵp.
