
Mapio’r Ymateb Cymunedol i COVID-19 yng Nghymru
Defnyddio data agored a dadansoddi ôl troed digidol i nodi’r cymunedau sydd angen cymorth fwyaf
Ynglŷn â’r prosiect » Dechrau arni »Ynglŷn â’r prosiect
Nodi bod yn agored i niwed
Ers i’r pandemig ddechrau, mae cymunedau wedi bod yn symud i helpu ei gilydd; o siopa i gymdogion oedrannus, i gynnig wyneb cyfeillgar neu gymorth arall. Mae’r map hwn yn rhan o ymdrech i ddeall yn well pa gymunedau sydd â’r cydlyniant a’r trefniadau gorau.
Amlygu angen a chymorth
Gall deall pa gymunedau sydd mewn perygl yn ystod y pandemig hwn helpu asiantaethau’r llywodraeth a sefydliadau’r trydydd sector i ystyried pa ardaloedd sydd angen y cymorth mwyaf. Gall cymorth cymunedol gynnig factor amddiffynnol yn erbyn digwyddiadau niweidiol. Mae rhai ardaloedd mewn mwy o berygl nag eraill ac mae’r map hwn yn amlygu’r ardaloedd lle mae anghydbwysedd rhwng cymorth ac angen sy’n awgrymu y gallent gael budd o gymorth ychwanegol.
Tîm y prosiect
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Dynamic Genetics lab, rhan o Uned Epidemioleg Cyfunol MRC ym Mhrifysgol Bryste.
Prifysgol Bryste
- Dr Oliver Davis
- Athro Cyswllt a Chymrawd Turing
- Dr Valerio Maggio
- Uwch Ymchwilydd Cyswllt mewn Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial
- Dr Alastair Tanner
- Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil
- Nina Di Cara
- Ymchwilydd Doethuriaeth MRC
- Chris Moreno-Stokoe
- Ymchwilydd Doethuriaeth ESRC
- Benjamin Woolf
- Ymchwilydd Doethuriaeth ESRC
Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Dr Alisha Davies
- Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso
- Dr Jiao Song
- Ystadegydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
- Elysha Rhys-Sambrook
- Swyddog Cymorth Prosiect
- Lucia Homolova
- Cynorthwyydd Ymchwil Iechyd y Cyhoedd
Os hoffech i grŵp eich cymuned leol ymddangos ar y map, cofrestrwch gyda COVID-19 Mutual Aid. Noder y gallai gymryd ychydig ddiwrnodau i'w ddiweddaru.